... barddoniaeth-ecoleg-cerddoriaeth-crefyddau-diwylliant-celf-athroniaeth...

Sul Mawrth 11eg Cyngerdd Pen-blwydd Rhwng 7.30pm £3/£2
Yn arbennig ar gyfer dathlu blwyddyn gyntaf Rhwng, cyfansoddwyd dau ddarn newydd o gerddoriaeth ar gyfer y ddau gerddor o statws rhyngwladol Rhodri Davies  ac Angharad Davies. Y darnau fydd Mantratsiacra (myfyrdod ar gyfer cerddorion) gan Catrin Jones, Rhwng y pegynau mae’n llonydd: the point between the poles is still (gosodiad ar gyfer telynor) gan Gorwel Owen. Bydd perfformiad cyntaf o’r cyfansoddiadau hyn hefyd yn cynnwys perfformiad o’r gwaith dylanwadol Four Meditations for Orchestra gan Pauline Oliveros .Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Rhodri Davies (Telyn ac Electronics), Angharad Davies (Ffidil), Catrin Jones (Obo), Pwyll  ap Siôn (Piano), Gorwel Owen (Gitar) a Fiona Owen (Dwlsimer Forthwyliedig).


Gwener Mawrth 2il 2007  
Universal Kinship: a perspective offered by Quaker Concern for Animals
Marian Hussenbux gyda cherddi gan Fiona Owen ac eraill

Mae Marian Hussenbux yn athrawes Ieithoedd Modern, arholwr a chyfieithydd, sydd wedi hanner ymddeol.
Ers 2004, bu’n glerc
Quaker Concern for Animals, ac mae ar hyn o’r bryd yn glerc cynorthwyol Cyfarfod Birkenhead, ac yn ysgrifenyddes grup Green Party Animal Rights.
Mae QCA yn datblygu polisi cyd-ffydd cryf ac yn aelod sylfaenol o Interreligious Fellowship for Animals. Yn ei sgwrs, Every being is an End, bydd Marian yn amlinellu hanes QCA, ei gysylltiadau â ffydd eraill, a’r cysyniad o Berthynas Cyffredinol.


Gwener Chwefror 2il 2007   
An Introduction to Eckhart Tolle
Cynthia Morgan gyda cherddi gan Joan Poulson


Gwener Ionawr 5ed 2007   Wonder: one way to dwell on the greeny earth

Fiona Owen gyda caneuon gan John Wright

  

Gwener Rhagfyr 1af 2006   7.45 i ddechrau'n brydlon am 8yh £3/£2

Sibrydion o'r Gorffennol

Llio Rhydderch a'r Delyn Deires Perfformiad a Sgwrs

Mae Llio Rhydderch a'i cherddoriaeth yn ymgorffori'r syniad o 'rhwng' mewn amryw o ffyrdd: o wreiddiau dwfn yn Ynys Môn y mae ei gwaith yn ymestyn allan i'r byd; ar sylfaen defnydd crai ei thraddodiad, ceir byrfyfyrio cyffrous; ac fel athrawes, mae hi'n creu pont rhwng perfformwyr y gorffennol, fel Nansi Richards, a'r dyfodol. Sgwennai Andrew Cronshaw yng nghylchgrawn fRoots yn ddiweddar: 'It is impossible to overstate the importance of this triple harpist from the island of Ynys Môn in Welsh, indeed in British music'. Bydd Llio yn perfformio peth o'i cherddoriaeth ar y delyn deires ac yn sgwrsio a thrafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'w gwaith.

Gwener Tachwedd 3ydd 2006   7.45 i ddechrau'n brydlon am 8yh £3/£2

Steve Reich yn 70

Pwyll ap Siôn yn cynnwys perfformiadau o Four Organs a gweithiau eraill.

Disgrifiwyd Steve Reich fel 'America's greatest living composer’ yng nghylchgrawn y Village Voice, Efrog Newydd, yn ddiweddar. Tra bod ei waith yn cynnwys esiamplau o gerddoriaeth fwyaf arloesol ail hanner yr ugeinfed ganrif, mae ei waith hefyd yn apelgar ac wedi dylanwadu ar sawl artist tu fewn i gerddoriaeth bop. Mae’r noson yn ddathliad o benblwydd Reich yn 70 ac hefyd yn ddathliad o'i gerddoriaeth. Gellir gweld ei waith yn eistedd rhwng celfyddyd uchel a’r diwylliant poblogaidd, wedi ei ddylanwadu gan ddiwylliannau dwyreiniol a gorllewinol, ac hefyd yn archwilio’r ffiniau rhwng rheolaeth a rhyddid. Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor, Pwyll ap Siôn a Tristian Evans, yn amlinellu cyd-destun ar gyfer deall cerddoriaeth Reich, a bydd yna gyfle prin i glywed peth o’i waith yn cael ei berfformio yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Four Organs (ar gyfer 4 organ), mewn acwstig ysblennydd theatr Canolfan Ucheldre. Bydd hefyd amser i drafod yn dilyn y perfformiadau.

Gwener Hydref 6ed 2006   7.45 i ddechrau'n brydlon am 8yh £3/£2

MUJO

Aled Jones Williams. Cerddi gan Gwyn Parry.

Drwy ei sgwrs, sy'n ddathliad o ben-blwydd cyntaf 'Rhwng: the Point Between', fe fydd y prifardd/dramodydd Aled Jones Williams yn archwilio 'MUJO', sef y y llythyren Japaneaidd sy'n dynodi'r 'teimlad o ddim'.

 

 

Gwener Medi 1af 2006   7.45 i ddechrau'n brydlon am 8yh £3/£2

Living in Godless Times

Gyda Alison Leonard. Caneuon gan Lleuwen Steffan.

 

 

Gwener Awst 4ydd 2006      7.45 i ddechrau'n brydlon am 8yh   

Lughnasadh/Gwyl Awst

Yn y cyfarfod yma cawn gyfle i archwilio gwyl Lugnasadh/Lammas a rhannu bara gyda'n gilydd. Hoffwn i chi ddod a rhywbeth i ddarllen, ganu, chwarae, ddweud, sy'n berthnasol i'r wyl (Does ddim gorfodaeth yma!). Gall eich 'offrwm' fod yn wreiddiol neu wedi ei fenthyg (cerdd? gweddi? cân? darn o gerddoriaeth?). Y syniad yw y bydd unrhyw gyfraniad yn fonws i'r achlysur, gyda'r bwriad o feithrin ymdeimlad cyfoethog o fod gyda'n gilydd, gyda phawb yn cymryd rhan i lywio'r digwyddiad.

 

 

Gwener Gorffenaf 7fed 2006 7yh     £3

The 'Rhwng' Moment

Arweinir gan Annee Griffiths. Caneuon gan Fiona a Gorwel Owen

Ymwybyddiaeth Ofalgar ydi bod yn ymwybodol o'r eiliad presennol - yr eiliad 'rhwng' - rhwng y dyfodol a'r gorffennol. Yr unig eiliad sydd raid i ni ei fyw. Er mae'n hawdd ei fethu. Bydd Annee Griffiths yn rhannu ac yn archwilio ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, Dechreuodd Annee ei hyfforddiant yn India a Japan deng mlynedd ar hugain yn ôl, ac yn fwy diweddar dysgodd i fod yn athrawes gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Cymru, Bangor. Mae hi bellach yn dysgu cyrsiau wyth wythnos Lleihau Straen drwy Ymwybyddiaeth Ofalgar, yn y brifysgol a hefyd i ddysgwyr o bellter dros y ffôn. Blwyddyn nesaf bydd yn dysgu ar gwrs MA mewn Dulliau wedi eu Seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (yn Iechyd) ym Mangor.

 

Gwener Mehefin 2il 2006   7pm £3

Sometimes this, sometimes that

'Sometimes pus,/sometimes poetry/...But through the wound in my chest/ God peers into the universe.' Bydd y bardd David Hart yn archwilio’r llinellau yma o gerdd gan Yehuda Amichai.

Ganwyd David Hart yn Aberystwyth, ac mae wedi gweithio ym Mirmingham fel caplan prifysgol, critig theatr, a gweinyddwr celfyddydau. Mae'n gweithio rwan fel bardd, gyda swyddi rhan-amser ym mhrifysgolion Warwick a Birmingham. Mae wedi bod yn fardd preswyl mewn gwyliau barddoniaeth, ysbytai seiciatrig a chyffredinol, ac Eglwys Gadeiriol Worcester. Bu'n 'Poet Laureate' Birmingham 1997-98, ac mae wedi ennill Cyntaf ac Ail yn y 'National Poetry Competition'.

 

Mai 13eg 10yb - 4yh Finding Space Diwrnod gyda Jim Pym

Rydym i gyd yn dilyn bywydau mor brysur, lle rydym yn gorfod ymateb yn ddi-baid i’r byd o’n cwmpas, ac mae’n aml yn anodd darganfod rhywfaint o le, h.y. lle i jyst  bod . Drwy ddefnyddio dulliau myfyrdod ac arferion eraill, a welir tu fewn i draddodiadau Bwdhaidd, Cristnogol, a Fedantic, byddwn yn archwilio ffyrdd y gallwn ddarganfod y lle - efallai dim ond am eiliad byr, a hyd yn oed yng nghanol ein hamseroedd mwyaf prysur a cyffrous - yn ogystal â darparu sail ar gyfer darganfod dulliau ein hunain.

Mae Jim Pym wedi bod hefo diddordeb mewn archwilio’r pynciau yma am fwy na 40 mlynedd. Mae yn Grynwr, yn offeiriad ordeiniedig Bwdhaidd (traddodiadSeimeizan’), ac yn aelod iachaol o’r ‘National Federation of Spiritual Healers’ ac ‘Quaker Spiritual Healers’. Mae wedi bod yn addysgu amryw o’r ffurfiau o fyfyrdod dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n awdurListening to the Light’, ‘The Pure Principle’ a ‘You Don’t Have to Sit on the Floor’. Gwelir rhai o themâu’r penwythnos yn ei lyfryn, ‘What Kind of God, What Kind of Healing’, a gyhoeddwyd gan ‘Friends Fellowship of Healing’.

 

Gwener Mai 5ed 2006      7yh    £3

Theism and Atheism. Sgwrs gan Tim Miles.

 

Mae'n cytuno bod 'theistiaeth' ac 'anffyddiaeth' yn dermau sy'n anodd eu cysoni, ac ni fydd yn ceisio, drwy ei sgwrs, i annog unrhywun i newid eu credau crefyddol na'u hymrwymiadau. Fe fydd, er hynny, yn rhybuddio yn erbyn gorymateb i '"scare" labels' (ac i rai pobol, mae 'anffyddiaeth' yn un o'r rhain). Bydd yn annog polisi o wrando sympathetig tuag at safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol o bob math.

Bu Tim Miles yn Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor o 1963 tan 1987, ac mae nawr yn Athro Emeritws. Bu ei brif ddiddordeb ymchwil yn faes dyslecsia, ac yn 2003 fe ennillodd OBE am 'services to those with dyslexia'. Mae hefyd wedi cyhoeddi llyfrau ar ymddygiadaeth ac athroniaeth crefydd. Mae wedi bod yn aelod o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr) ers y 1960au cynnar. Bu'n gwasanaethu yn y fyddin o 1942 tan 1945, ond ymddiswyddodd ei gomisiwn ym 1945 i fod yn wrthwynebwr cydwybodol.

 

Gwener Ebrill 7fed 2006 7yh     £3

To whom it may concern Gorwel Owen gyda Pwyll ap Siôn (Piano), a darllenwyr Fiona Owen a Graham Thomas. 

Fe ddywedodd Sam Richards: 'If John Cage had not existed, the twentieth century would have had to invent him'. Yn sicr, mae cerddoriaeth Cage, a’r pethau mae wedi eu hysgrifennu, yn cynnig amryw o gwestiynau ynglwn â’r perthynas rhwng sun a distawrwydd, rheolaeth a rhyddid, difrifoldeb a chwarae... Byddwn yn dathlu chwe mis cyntaf Rhwng: the Point Between gyda pherfformiadau cydamserol o’i Lecture on Nothing a T.V. Köln. Cyn y perfformiad, ceir ychydig o gefndir Cage, a bydd amser i drafod ar ddiwedd y noson.

 

Gwener 3ydd  Mawrth 2006                7yh    £3

The Healing Nature of the Arts: the cauldron of transformation at the centre of creative play.

Ymchwiliad cyfranogol ynglyn â'r ffyrdd y gall celfyddydau fod yn rhan sylweddol o fyw yn iachus. Mae Pauline Down wedi gweithio yn y celfyddydau am 25 mlynedd fel athrawes, arweinydd gweithdy, hyfforddwr, perfformiwr a chyfansoddwr caneuon. Mae hi wedi ei hysbrydoli'n enwedig gan ei gwaith yn y gymuned efo pobol o bob oed a gallu. Yn, bresennol, mae hi'n gyfarwyddwr cwrs i Dryw, ac yn gyfarwyddwr artistig i Gôr Cymunedol Fangor.

 

Gwener 4ydd  Chwefror 2006    7yh    £3

Rubbing the Elephant: Tao, Zen & the Word Graham Hartill hefo caneuon gan Pulco (Ashley Cooke).

Bydd y bardd Graham Hartill yn arwain trafodaeth ynglwn â lleoliad barddoniaeth yn y byd dwyreiniol a’r byd gorllewinol, efo cyfeiriad tuag at esiamplau o draddodiadau Taoaidd, Bwdhaidd a Christnogol. Sut yr ydym yn disgrifio'r hyn sy’n annisgrifiadwy? Pam mae traddodiadau cyfriniol yn pwysleisio’r gair ysgrifenedig? Dylai’r Beibl, fel mae Alan Watts yn ei awgrymu, gael ei gladdu am gan mlynedd? Mewn cyfnod o ffwndamentaliaeth grefyddol yn y dwyrain a’r gorllewin, mae’r cwestiynau yma yn rhai llosg, i awduron a phawb arall.

 

Gwener 6ed Ionawr 2006           7yh    £3                                           

Beginner’s Mind and the poetics of engagement Fiona Owen, efo cerddi gan Marianne Jones

Ar gychwyn y flwyddyn newydd, archwiliwn gyda’n gilydd, drwy amrywiaeth o enghreifftiau llenyddol a gweithgareddau, y syniad o ‘beginner’s mind’. Cysidrwn y modd y mae meithrin y cyflwr agored yma yn sylfaenol i’r broses greadigol.

 

Sadwrn 17eg Rhagfyr 2005 Hanner Dydd

Dathlu'r Nadolig/ Alban Arthan - Heulsafiad y Gaeaf / dathlu troad y rhod a rhannu bwyd gyda'n gilydd yng nghaffi Ucheldre. Gwahoddi'r pawb sydd yno i gyfrannu, drwy rannu cân, cerddoriaeth, darlleniad, gweddi, cerdd neu ddawns sy'n addas i'r tymor.

Gwener 2il Rhagfyr 2005 7yh £3 Betwixt and between - a Quaker Perspective gan Gerald Hewitson. Cerddoriaeth gan Gwilym Morus.

Gwener 4ydd Tachwedd 2005 7yh £3 'In your face.' Am I bovvered? Sgwrs archwiliol gan y Parch. Randolph Ellis, Is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Bangor a bardd. Cerddoriaeth gan Cass Meurig.

Gwener 7ed Hydref 2005 7yh Noson Lansio Sgwrs i gyflwyno'r gymdeithas gan Fiona Owen, sgwrs gan y bardd/dramodydd/llenor Aled Jones Williams, y bu ei waith yn ysbrydoliaeth i syniad 'rhwng'. Bydd hefyd ddarlleniad gan Mandy Simone a chaneuon gan Alun Tan Lan - cafodd ei CD diweddar Y Distawrwydd ei ddewis yn un o'r deg gorau erioed o Gymru gan Observer Music Magazine.  Ond aros yn y lle rhwng y ddau’ - Aled Jones Williams 

 

Ond aros yn y lle rhwng y ddau’ - Aled Jones Williams